
Mae’r rhan hwn o’r wefan yn crynhoi gwybodaeth Cyfrifiad 2001 ar gyfer ardal Parc Cenedlaethol Eryri a’i chymunedau.
Pob deng mlynedd ers 1801, mae’r genedl wedi rhoi diwrnod o’r neilltu ar gyfer y Cyfrifiad, sef cyfrif o holl bobl ac aelwydydd. Cafodd y Cyfrifiad diweddaraf ei gwblhau ar Ddydd Sul, Ebrill 29ain 2001. Am y tro cyntaf, mae set o ystadegau'r cyfrifiad ar gael sydd yn ymwneud â phreswylwyr y Parc.
Mae Cyfrifiad 2001 yn ffynhonnell wybodaeth werthfawr ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Rhydd y cyfrifiad wybodaeth am boblogaeth y Parc, am gymunedau o fewn y Parc, am gydbwysedd rhwng yr ifanc a’r oedrannus, am swyddi preswylwyr y Parc a’r math o dai maent yn byw ynddynt. Mae hefyd yn dangos sut mae'r ardal yn newid dros amser.
Un o ddyletswyddau Awdurdod y Parc Cenedlaethol yw ‘hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd ddeall nodweddion arbennig y Parc’; felly mae’n hanfodol bwysig ein bod yn rhannu gwybodaeth am y Cyfrifiad â chynifer o bobl â phosib.
Yn yr adran hon cyflwynir detholiad o ffigyrau Cyfrifiad 2001 ar gyfer y Parc yn ogystal â’r cymunedau hynny sydd naill ai’n gyfan gwbl neu yn rhannol o fewn y Parc. Mae ffigyrau y Cyfrifiad ar gael o’r cysylltiadau ar ochr chwith y dudalen hon. Yn ogystal, gellir gweld mapiau thematig sydd yn arddangos data yn fwy gweledol ar ffurf map ar gyfer ardal Parc Cenedlaethol Eryri. Os ydych angen mynediad i ffynhonellau data ychwanegol am eich ardal leol, cliciwch ar yr adran cyswllt allanol sydd ar ochr chwith y dudalen hon.

