SNPA Print Header
Rydych chi yma: Addysg >Gemau Olympaidd

Ffeithiau Olympaidd - Eryri

1. Pellter y Marathon Olympaidd yw 26 milltir a 385 llath - mae hyn cymaint a cherdded llwybr Llanberis i gopa'r Wyddfa 3 gwaith i fyny ac i lawr!

2. Mae râs Beicio Olympaidd i ddynion yn bellter o 155 milltir. Mae hyn cymaint a beicio ar hyd llwybr Mawddach o Ddolgellau i Abermaw 17 gwaith!

3. Mae digwyddiadau rhwyfo Olympaidd yn cael eu cynnal ar Lyn Eton Dorney sy’n 2,000m o hyd. O gymhariaeth, mae Llyn Tegid Bala yn 5,954m o hyd!

4. Bydd Marathon Nofio Olympaidd yn 10km o hyd ac yn cael ei gynnal yn Hyde Park. Mae hyn cymaint a nofio hyd Llyn Celyn yn Nhryweryn, ddwy waith!

5. Mae Slalom Canwio Olympaidd yn ddibynol ar fanyldra a chyflymder er mwyn delio a’r dŵr gwyn. Yma yn Eryri mae gennym Ganolfan Dŵr Gwyn Cenedlaethol sy’n defnyddio dŵr o Lyn Celyn.

6. Mae Triathlon Olympaidd yn cynnwys nofio 1,500m, beicio 40km a rhedeg 10km. Mae hyn cymaint a nofio hyd Llyn Tegid pedwar a hanner o weithiau, beicio ar hyd y Mawddach o Ddolgellau i Abermaw dair gwaith a rhedeg i fyny llwybr Minffordd i gopa Cader Idris ac yn ol!

7. Bydd râs Olympaidd i ddynion 50km yn cael ei gynnal ar strydoedd Llundain. Os cerddwch o amgylch Llyn Gwernan 16 o weithiau byddai hyn yn gyfatebol i’r râs gerdded Olympaidd.

8. Mae Llyn Tegid a dyfnder o 42m. Os buasai Usain Bolt yn gallu rhedeg tuag i lawr ac o dan y dŵr byddai’n cyrraedd gwaelod y llyn mewn 5 eiliad!

9.Gwerthwyd dros 6.7 miliwn o dicedi ar gyfer Gemau Olympaidd Sydney yn 2000. Bob blwyddyn mae Parc Cenedlaethol Eryri yn denu oddeutu 10 miliwn o ymwelwyr!

10. Bydd tua 10,500 o athletwyr yn cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd 2012. Mae tua 400,000 o ymwelwyr yn ymweld â chopa’r Wyddfa bob blwyddyn!

Stone
Home Staff Extranet Contact Us
UK National Parks
Ar ben y dudalen

SNPA Print Footer

Awdurdod Parc Cenedlaethol, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL519DX
Ffôn: 01766772274 e-bost: parc@eryri-npa.gov.uk www.eryri-npa.gov.uk