
Dyma chi wedi cyrraedd tudalennau addysg Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Mae’n rhaid eich bod angen mwy o wybodaeth ar gyfer gwneud gwaith ysgol neu astudio agweddau penodol o Barc Cenedlaethol Eryri. Cewch fwy o wybodaeth am waith yr adran addysg ar hyn yr ydym yn ei gynnig wrth ddilyn y dolenni ar y chwith. Os hoffwch fwy o wybodaeth ynglŷn â cyrsiau, adnoddau’r adran ac ymweld â’r Ganolfan Astudiaethau Amgylcheddol cofiwch gysylltu â ni ar addysg@eryri-npa.gov.uk

Beth yw Parc Cenedlaethol?
Ardal o dir sy’n cael ei warchod gan ddeddf gwlad yw Parc Cenedlaethol er mwyn hybu’r cyhoedd i fwynhau’r hyn oddi fewn iddo. Mae Parciau Cenedlaethol yn gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a hen ddiwylliant yr ardal. Mae 15 Parc Cenedlaethol ym Mhrydain â Parc Cenedlaethol y Cairngorms yn yr Alban yn cipio teitl y Parc Cenedlaethol mwyaf. Mae’n 1,465 milltir sgwâr, (4,528Km sgwâr) sydd yn fwy na Gwlad Luxemburg. Mae tri Parc Cenedlaethol yng Nghymru, sef Eryri, Arfordir Penfro a’r Bannau Brycheiniog.
Parc Cenedlaethol Eryri
Fe ffurfiwyd Parc Cenedlaethol Eryri yn 1951 ac hwn yw’r un mwyaf yng Nghymru ac yn cwmpasu 823 milltir sgwâr neu 2,176Km sgwâr. Mae Parc Cenedlaethol Eryri;
Yr Wyddfa
Yma ym Mharc Cenedlaethol Eryri mae’r Wyddfa, sef mynydd mwyaf Cymru a Lloegr ac mae’n sefyll 1,085m uwch lefel y môr. Ar ddiwrnod clir, mae'n bosib gweld cyn belled âc Ardal y Llynoedd ac Iwerddon wrth sefyll ar y copa.
Ymwelwyr Eryri
Mae tua 10 miliwn diwrnod ymweld yn cael ei dreulio yn Eryri bob blwyddyn gyda oddeutu 4.27 miliwn o ymwelwyr yn ymweld â’r ardal.
Llwybrau Cyhoeddus Eryri
Mae tua 1,479 milltir o lwybrau cyhoeddus yma yn Eryri. Maent yn amrywio o lwybrau mynyddig yr ucheldiroedd i deithiau hamdden lawr gwlad. Os rhowch holl lwybrau cyhoeddus Eryri at ei gilydd byddai modd gyrru ar hyd lonydd troellog i’r Bari yn yr Eidal neu fel hed y fran at ffiniau gorllewinol Rwsia!


